Penodwyd PLANED fel y Corff Arweiniol i redeg y Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Roedd gan PLANED cytundeb gyda Llywodraeth Cymru.
Fel y Corff Arweiniol, PLANED oedd yn cyflogi’r swyddogion i gefnogi ceisiadau cyllid, nhw oedd yn trefnu cyfarfodydd a’r Cytundebau Cyllid, nhw oedd yn monitro a gwerthuso’r Rhaglen ac yn casglu gwbodaeth ar gyfer y Targedau.
PLANED oedd yn atebol i Rhwydwaith Gwledig Cymru fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru.
Cyn cychwyn ar LEADER, roedd rhaid i bob sir sefydlu Grwp Gweithredu Lleol (GGLl). Yn Sir Benfro, ‘Arwain Sir Benfro’ oedd enw’r Grwp Gweithredu Lleol.
Roedd cynrychiolaeth o’r sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol ar y Grwp Gweithredu Lleol a’r ffocws oedd cyflawni Strategaeth Datblygu Lleol Sir Benfro – y ddogfen oedd yn amlinellu'r anghenion a'r cyfleoedd a nodwyd ar gyfer Sir Benfro.
Roedd Grŵp Gweithredu Lleol LEADER Sir Benfro yn cyfarfod yn Chwarterol. Roedd gan y Grwp Cadeirydd, Cynghorydd Tony Baron, ac Is-Gadeirydd, Tegryn Jones, Prif Weithredwr PCAP. Dan arweiniad y Cadeirydd blaenorol, Nic Wheeler, cefnogwyd dros 65 o brosiectau a Prosiectau Cydweithredol fel rhan o LEADER.
Oedd angen sicrhau bod dros 70 o brosiectau yn cael eu cwblhau yn llwyddiannus ac wedi hyrwyddo gweithgaredd economaidd cynaliadwy ac yn elwa llesiant preswylwyr Sir Benfro. Y nod hir dymor oedd sicrhau bod Sir Benfro yn elwa’n gyfrannol o unrhyw gyllid sy’n disodli cyllidebau’r LEADER UE.
Dysgwch fwy am rôl y GGLl yn y fideo isod.
TONY BARON, Cadeirydd y GGLl
Mae Tony Baron yn economegydd yn ôl ei gefndir ac ar ôl gyrfa yn ninas Llundain symudodd i Sir Benfro yn 2001. Ynghyd â'i wraig mae'n berchen ar ac yn gweithredu parc gwyliau yn y sir. Ers symud i Sir Benfro mae wedi bod yn ymwneud yn helaeth â’r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) sy’n cynrychioli’r sefydliad ar Banel Busnes Sir Benfro a chafodd wahoddiad i ymuno â’r Grŵp Gweithredu Lleol fel aelod gweithgar o gymuned fusnes Sir Benfro. Mae'n Llywodraethwr Ysgol Greenhill a hefyd yn aelod o Fforwm Ymgynghorol Coleg Sir Benfro. Mae Tony yn aelod o Bwyllgor Polisi'r DU o'r Ffederasiwn Busnesau Bach. Mae hefyd yn gwasanaethu fel aelod o’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol (APPG) ar Fancio Busnes Teg a’r APPG ar Drethiant. Yn ogystal mae'n aelod o Banel Cyswllt Mentrau Bach a Chanolig Gwasanaeth Datrys Bancio Prydain. Ym mis Mai 2017 etholwyd Tony yn Gynghorydd Sir dros Ward Amroth ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llanrhath.
Tegryn Jones, Is-Gadeirydd y GGLl
Tegryn Jones yw Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Daw’n wreiddiol o Lambed yng Ngheredigion ac mae bellach yn byw yn Llangwm.
Mae ganddo radd mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth ac MBA o’r Brifysgol Agored a chyn hynny bu’n gweithio i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, Prifysgol Abertawe ac Urdd Gobaith Cymru. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Cyn ymuno ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol roedd yn Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus lle bu’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Fenter Trefi Taclus a goruchwylio ehangu’r rhaglen Eco-Sgolion a Gwobr y Faner Las.
Tegryn yw Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Caer Elen, Ysgol Cyfrwng Cymraeg 3-16 ac mae’n ymddiriedolwr Cymdeithas Hostelau Ieuenctid a Sefydliad Elusennol Parciau Cenedlaethol y DU.
Roedd Stella Hooper, Rheolwr Cyllid Allanol ym Mhorthladd Aberdaugleddau, wedi bod yn aelod o’r Grwp Gweithredu Lleol (LAG) ers ei ffurfio yn 2015. Yma, rhanna ei phrofiadau o fod yn rhan o’r LAG.
“Rydw i’n cynrychioli Porthladd Aberdaugleddau ar y LAG a’r Is-LAG. Fel Porthladd Ymddiriedolaeth a chwaraewr unigryw yn yr economi lleol, rydym yn ymrwymedig i gyfrannu at y gymuned leol ble gallwn ychwanegu gwerth a gwella cyfleoedd i’n rhanddeiliaid yn y pendraw – cenedlaethau’r dyfodol. Mae cynrychiolaeth ar y LAG yn un enghraifft o hyn.
“Yr Is-Lag yw un o’r pethau mwyaf diddorol o fod yn rhan o LEADER, gan mai dyma ble mae’r prosiectau yn cael eu trafod a’u hasesu’n fanwl.
“Dros y blynyddoedd nesaf rwy’n edrych ymlaen at gael gweld sut mae’r prosiectau yn gwneud cynnydd yn erbyn y targedau a gweld adolygiad cynhwysfawr o’r holl brosiectau fel bod gennym ddarlun clir o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ynghyd ag argymhellion ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi rhoi cymeradwyaeth i nifer o brosiectau da a fydd yn gadael etifeddiaeth o fuddion i’r sir.”
Tony Baron
Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) (Sector Preifat)
Gareth Bond
Coleg Sir Benfro (Sector Cyhoeddus)
Ged Davies
Cyfeillion y Parc Cenedlaethol (Trydydd sector)
Gwyn Evans
Cyngor Sir Penfro (CSP) (Sector Cyhoeddus)
Rhidian Evans
Menter Iaith Sir Benfro (Trydydd Sector)
Margaret Morgan
Menter Iaith Sir Benfro (Trydydd Sector)
Christine Gwyther
Tîm Tref Doc Penfro (Trydydd Sector)
Stella Hooper
Porthladd Aberdaugleddau (Sector Preifat)
Martin Horne
Pontio Bro Gwaun (Trydydd Sector)
Jonathan Hughes
Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Trydydd Sector)
Steven Jones
Cyngor Sir Penfro (CSP) (Sector Cyhoeddus)
Sue Leonard
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) (Trydydd Sector)
Emma Lewis
(Is-Gadeirydd) Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) (Trydydd Sector)
Marten Lewis
Bluestone (Sector Preifat)
Elaine Lorton
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Sector Cyhoeddus)
Charles Mathieson
Fforwm Arfordirol Sir Benfro (Sector Preifat)
Mair Thomas
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) (Sector Cyhoeddus)
Ken Murphy
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed (Trydydd Sector)
Robert Phillips
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (Sector Cyhoeddus)
Mike Plumb
Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) (Sector Preifat)
Rebecca Voyle
Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) (Sector Preifat)
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.