Hoffech chi £ 500? Hoffech chi godi £ 1500 at achos da lleol yn agos at eich calon?
Mae Cronfa Asedion Cymunedol / Cronfa Asedau Cymunedol yn brosiect yn Sir Benfro a ariennir gan LEADER.
Mae’n gynllun loteri rhanbarthol sy’n gweithio’n agos gyda phobl leol yn eu cymunedau.
Ddydd Llun 16eg Rhagfyr 2019, 12.30pm – 1.30pm yn Uned 9 yma yn PLANED, byddant yn cynnal cyfarfod hyrwyddwyr yn canolbwyntio ar bopeth Cronfa Asedion Cymunedol / Cronfa Asedau Cymunedol.
Os hoffech ddarganfod mwy am y cyfleoedd gwych y gall y cynllun hwn eu darparu i gymunedau lleol a sut y gallech ennill £500 fel hyrwyddwr, yna beth am ddod i’r digwyddiad. Mae hefyd yn gyfle i gael ychydig o rwydweithio ac i ddal i fyny â phobl o’r un anian.
Darperir lluniaeth ysgafn.
RSVP os gwelwch yn dda i jasonr@planed.org.uk cyn diwedd y dydd ddydd Gwener 13eg Rhagfyr fel y gellir gwneud darpariaethau cywir.
Os na allwch ddod ar 16 Rhagfyr, byddwn yn cynnal Digwyddiadau Hyrwyddwyr eraill ar 20fed Ionawr 2020, 17eg Chwefror 2020 a 16 Mawrth 2020.
Mae Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED wedi rhoi £28,758.38 o gyllid i’r Cronfa Asedion Cymunedol, Community Assets Fund. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.