Mae’r tîm LEADER wedi bod yn brysur yn creu astudiaeth achos fideo newydd yn manylu’r gwaith anhygoel mae Span Arts wedi’i gyflawni fel rhan o’r Prosiect Celfyddydol #Digidol.
Ymwelodd Kathryn Lambert, Rheolwr Span Arts â’r stiwdio recordio yn PLANED yr wythnos hon i sgwrsio ynghylch sut mae’r prosiect celfyddydol digidol uchelgeisiol wedi helpu i ddatblygu ffordd newydd o gyflwyno gwasanaethau diwylliannol i gymunedau gwledig ar draws Sir Benfro gyfan. Dywedodd Kathryn wrthym “Mae’r prosiect wedi ein galluogi ni i roi gwasanaethau dan brawf a oedd yn agor y drws at ddiwylliant ar draws Sir Benfro gyfan. Dyma’r amser delfrydol i dechnoleg ddigidol gynorthwyo gydag ymgysylltu’r gymuned gyda’i gilydd.”
Ariannwyd y prosiect drwy’r rhaglen LEADER, rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid gan LEADER hefyd wedi helpu Span Arts i gael cyllid cyfatebol o £30,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru tuag at y prosiect.
Bydd y fideo dogfennol byr ar gael i’w wylio ar ein tudalen Cyfryngau newydd yn fuan.
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.