Ydych chi’n caru Sir Benfro ac yn frwdfrydig dros ei chymunedau?
Ydych chi eisiau ymuno â sefydliad blaengar, cadarnhaol sy’n perfformio’n dda?
OES?
Os felly, hoffem glywed gennych chi!
Swyddog Prosiect LEADER – 22.5 awr, cyfnod penodol hyd at fis Gorffennaf 2022 (£25,000 pro rata)
Yn ogystal, rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect deinamig a threfnus i ymuno â thîm LEADER. Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog gyda llygad craff am fanylder o fewn tîm cyflym ac yn frwd dros ddatblygu cymunedau.
Byddwch yn helpu ac yn arwain prosiectau newydd a phresennol a gefnogir drwy gynllun LEADER Arwain Sir Benfro (ASB) ac yn cefnogi’r gwaith o reoli prosiectau newydd a phosibl a phrosiectau sy’n bodoli eisoes i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni o fewn amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt.
Mae profiad uniongyrchol o gyflawni prosiectau a ariennir, monitro grantiau, gwerthuso a rheoli hawliadau o fewn sefydliad tebyg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.
Gweler ein gwefan: www.planed.org.uk am fanylion ynglŷn â sut i ymgeisio.
Os hoffech drafod y rôl hon ymhellach neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch cyn gwneud cais, cysylltwch â Alice Coleman ar 01834 860965 neu e-bost: alice.coleman@planed.org.uk
I lawrlwytho ffurflen gais ar gyfer y, Swyddog Prosiect LEADER cliciwch yma: Ffurflen Gais
I lawrlwytho’r disgrifiad swydd cliciwch yma Swyddog Prosiect LEADER Disgrifiad Swydd
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.