Mae cynllun sy’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer Twristiaeth yn y Sir am y bum mlynedd nesaf wedi’i gyhoeddi.
Lansiwyd Cynllun Marchnata Cyrchfan Sir Benfro mewn Uwchgynhadledd Twristiaeth Sir Benfro, a gynhaliwyd yn Rhosygilwen, gan y Cynghorydd Paul Miller a Jane Rees Baynes. Roedd y digwyddiad yn cynnwys diweddariad gan Bartneriaeth Cyrchfan Sir Benfro ar sut y bydd partneriaid twristiaeth yn ailstrwythuro twristiaeth yn y sir.
Datblygwyd y ddogfen gan bartneriaid Cyrchfan Sir Benfro sy’n cynnwys Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, PLANED a Thwristiaeth Sir Benfro gyda Croeso Cymru yn goruchwylio.
Mae’r cynllun yn cynnwys pum maes blaenoriaeth ar gyfer twristiaeth ac amrywiaeth o gamau gweithredu i’w cyflawni nhw. Un o’r amcanion yw gwneud Sir Benfro yn un o’r pum prif ddewis cyrchfan i ymweld â nhw yn y DU.
Dywedodd Iwan Thomas, Prif Swyddog Gweithredol PLANED: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn y digwyddiad ac yn cefnogi lansiad y cynllun, y cam nesaf pwysig yw gwneud i hyn weithio’n ymarferol. Mae PLANED yn falch ein bod wedi gweithio gyda, a chefnogi partneriaid yn natblygiad y Cynllun a gyda’n ffocws ar gymuned rydym wedi ymrwymo i wneud i hyn weithio. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn wella effaith economaidd twristiaeth wrth gydbwyso hyn â’r angen i amddiffyn a dathlu’r union nodweddion sy’n gwneud Sir Benfro yn gyrchfan ddeniadol i ymwelwyr. Gallwn osod Sir Benfro yn gadarn ymhlith y 5 prif ddewis cyrchfan yn y DU.
Darparodd Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED, gyllid o £19,285 i Bartneriaeth Cyrchfan Sir Benfro ar gyfer datblygu Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Benfro newydd. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae Cynllun Marchnata Cyrchfan Sir Benfro ar gael i’w lawrlwytho:
Cliciwch yma
Mae Crynodeb o Gynllun Marchnata Cyrchfan Sir Benfro ar gael i’w lawrlwytho:
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.