Mae PLANED yn falch iawn o gyhoeddi ei fod yn lansio ei Wythnos Treftadaeth Gymunedol gyntaf yn Sir Benfro ddiwedd mis Mai, digwyddiad a fydd yn hyrwyddo ac yn dathlu treftadaeth a diwylliant cyfoethog cymunedau ledled y sir.
Bydd Wythnos Treftadaeth Gymunedol gyntaf Sir Benfro yn gwbl rithwir oherwydd cyfyngiadau COVID-19, ond y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at bethau mwy, gyda chynlluniau ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf yn cynnwys gweithgareddau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ledled Sir Benfro.
Yn trefnu'r Wythnos mae Stuart Berry, Cydlynydd Diwylliant a Threftadaeth PLANED, a ddywedodd: "Rydym wir yn meddwl y gallai eleni fod yn sbardun i ddatblygu'r digwyddiad hwn yn un llawer mwy sy'n cwmpasu hanes a threftadaeth anhygoel ein sir yn llawn.
Rydym wir yn gobeithio y gallwn ysbrydoli sefydliadau eraill a'n grwpiau treftadaeth cymunedol gwych, ac y gall yr Wythnos ddod yn llwyfan i ddathlu'r gwaith sy'n digwydd mewn cymunedau, ac i gyrraedd mwy o bobl wrth adrodd hanes Sir Benfro."
Eleni bydd yr wythnos yn rhedeg o Ddydd Llun 31 Mai i ddydd Gwener 4 Mehefin, a bydd deunydd ar-lein newydd ar gael drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys podlediadau treftadaeth gymunedol, ffrwd fideo fyw o Blasty Scolton ar brynhawn Llun Gŵyl y Banc, sgyrsiau hanes a chyflwyniadau, straeon tân gwersylla, a llawer mwy.
Bydd PLANED hefyd yn darparu dolenni newydd i gynnwys ar-lein presennol, gan gynnwys y digwyddiad Diwrnod Archaeoleg rhithwir a drefnwyd ar y cyd gan PLANED, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 2020, yn ogystal â chyfres podlediad misol Adleisiau o’r Gorffennol.
Un o uchafbwyntiau penodol yr wythnos fydd 'cwis tafarn' byw ar-lein a fydd yn agored i bawb ac yn cael ei ddarlledu dros sianel YouTube PLANED. Dywed Stuart: "Rydym yn gobeithio y bydd y cwis yn herio gwybodaeth pawb am hanes Sir Benfro, ond rydym wedi'i gyflwyno fel nad oes angen i chi fod yn arbenigwr hanes i gymryd rhan. Yn anffodus, ni allwn gynnig unrhyw wobrau – ar wahân i’r hawl i frolio ymhlith eich ffrindiau – ond gobeithiwn y bydd yn darparu noson o adloniant a hwyl i unrhyw un sydd â diddordeb yn y sir!"
Mae nifer o grwpiau a sefydliadau cymunedol eisoes yn cyfrannu at y digwyddiad eleni gan gynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod, Span Arts, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Amgueddfa Hwlffordd, a Phlasdy Scolton sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Penfro.
Mae PLANED yn annog pob sefydliad lleol a grŵp gwirfoddol i gymryd rhan yn yr wythnos, naill ai drwy gymryd rhan yng ngweithgareddau PLANED, neu drwy gynhyrchu eu digwyddiadau eu hunain, a allai gynnwys sgyrsiau Zoom, teithiau rhithwir, arddangosfeydd ar-lein, neu unrhyw beth arall sy'n helpu i ddathlu treftadaeth wych Sir Benfro.
Bydd amserlen o ddigwyddiadau ac amseriadau ar gael drwy wefan a thudalen Facebook Adleisiau o’r Gorffennol yn ogystal ag ar draws holl gyfryngau PLANED, ond os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Stuart Berry ar: stuart.berry@planed.org.uk neu ewch i www.echoeswales.cymru am ragor o fanylion.
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.