Mae PLANED yn falch o gyhoeddi bod dau aelod newydd o staff wedi ymuno â’r tîm yn ystod yr haf. Ymunodd Karen Lewis ym mis Gorffennaf, a hi yw’r Cydlynydd Cyfathrebu newydd. Bydd yn gyfrifol am ddarparu holl elfennau AD a marchnata, gan gyfrannu ei sgiliau Marchnata Digidol, Dylunio Graffeg, Golygu Fideo a Ffotograffiaeth at y swydd.
Mae Karen wedi gweithio fel Rheolwr Twristiaeth ym Mhorthladd Aberdaugleddau, a chyn hynny, yn Theatr Torch am 10 mlynedd gan ddatblygu o Swyddog Cyhoeddusrwydd i Swyddog Dylunio a Marchnata Digidol a Rheolwr Marchnata. Mae hi hefyd wedi gweithio fel Marchnatwr, Ffotograffydd a Dylunydd Graffeg Llawrydd am dros 10 mlynedd, ac yn ddiweddar cymhwysodd mewn Strategaeth Marchnata Digidol yng Ngholeg Cyfathrebu Llundain. Yn ychwanegol at hyn, mae Karen yn Sarsiant Gwirfoddol i Heddlu Dyfed-Powys, ac yn eistedd fel Cyfarwyddwr Bwrdd i ddau gwmni theatr yng Nghymru: Theatr na nÓg yng Nghastell-nedd a Theatr Ieuenctid Mess up the Mess yn Rhydaman.
Ymunodd Alice Coleman â PLANED yn ystod mis Awst fel Cydlynydd LEADER, gan ddod â phrofiad o’i swydd flaenorol fel Swyddog Prosiect yn Lantra gyda hi i’w rôl. Bydd y rôl yn cefnogi’r broses o weithredu’r Strategaeth Datblygu Lleol yn llwyddiannus ar gyfer y rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Yn ei swydd fel Swyddog Datblygu gyda Lantra, roedd Alice yn cefnogi busnesau garddwriaeth masnachol i fod yn fwy cynhyrchiol, proffidiol ac yn barod i wynebu’r heriau o’u blaen.
Cyn ymuno â Lantra, roedd Alice yn gweithio gyda Chydweithfeydd Bwyd Cymunedol Cymru gan weithio gyda thyfwyr a chyflenwyr ledled Cymru ac adeiladu capasiti o fewn cadwyni cyflenwi lleol. Mae’n dod â set sgiliau amrywiol i’w swydd, yn ogystal â chefndir mewn Partneru Busnesau AD yn cynnwys Datblygiad Busnes a Phrosiect, Dylunio Sefydliadol, Polisi, Darparu Adnoddau, Mapio Talent, a Chysylltiadau ac Ymgysylltiad Gweithwyr.
Mae PLANED yn croesawu Karen ac Alice, ac yn credu y bydd eu doniau, brwdfrydedd a syniadau newydd yn werthfawr i’r tîm.
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.