Prosiect i gefnogi, datblygu a chynyddu mynediad at dreftadaeth leol wedi ennill cyllideb gan Arwain Sir Benfro.
Mae Arwain Sir Benfro – y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED wedi rhoi £43,932 o gyllid i’r Grŵp Pum Cymuned ar gyfer eu prosiect Rhannu Hanes Lleol. Ariennir hyn trwy’r rhaglen LEADER, sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae’r Grŵp Pum Cymuned (FCG) yn cynrychioli pum cymdeithas hanes lleol – Coastlands, Hook, Llangwm, Penalun, Penfro and Monkton. Dywedodd Liz Rawlings o’r Grŵp Pum Cymuned: “Rydym yn gwybod fod gan grwpiau hanes ledled Cymru luniau gwych, arteffactau ac amrywiaeth o eitemau hanesyddol sydd wedi eu casglu a’u rhoi dros y blynyddoedd. Rydym hefyd yn gwybod fod pryderon ynghylch yr adnoddau gwerthfawr hyn sydd yn gallu dirywio gydag amser ac nad ydynt ar gael bob amser fel adnodd hanesyddol i gymdeithasau hanes eraill, myfyrwyr, ymchwilwyr, haneswyr neu gasglwyr achau.
“Mae’r cyllid hwn gan Arwain Sir Benfro wedi ein galluogi i sefydlu’r prosiect Rhannu Hanes Lleol, gan gyflogi dau swyddog prosiect yn Sir Benfro i archifo’n ddigidol a rhannu gwybodaeth am yr arteffactau hanesyddol yma sy’n amrywio o’r cyfnod Mesolithig hyd at y cyfnod modern.”
Swyddogion y Prosiect yw Angela Jones, cyn-reolwr y Tŷ Tuduraidd yn Ninbych-y-pysgod, a David Llewelyn, cyn archifydd yn Swyddfa Cofnodion Sir Benfro.
Dywedodd Natalie Lang, Swyddog Prosiect: “Drwy gadw gydag ethos cyllid LEADER, bydd yr holl wybodaeth sydd wedi ei chasglu yn cael ei rannu gyda’r grwpiau treftadaeth, amgueddfeydd, y Swyddfa Cofnodion, a Chasgliad y Werin, Cymru. Rwy’n gobeithio gweld hyn yn gwneud gwahaniaeth i dwristiaeth treftadaeth yn Sir Benfro. Bydd hefyd yn help i ddatblygu a chryfhau’r cyswllt rhwng y cymunedau sydd yn cymryd rhan, gan greu ymwybyddiaeth ddyfnach o ymdeimlad o le. Bydd y rhwydwaith cefnogol yma yn fuddiol i grwpiau eraill ymchwilio i, a darparu prosiectau treftadaeth, ac fe ellir ei ddefnyddio fel model i gysylltu cymdeithasau hanes eraill yn y dyfodol.”
Ar hyn o bryd, mae Arwain Sir Benfro yn cefnogi syniadau am brosiectau gan grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau lleol. Fel y Grŵp Gweithredu Lleol ar gyfer Sir Benfro, mae Arwain Sir Benfro yn dwyn ynghyd cymysgedd o gynrychiolwyr cymunedol a busnesau lleol, y trydydd sector a phartneriaid awdurdod lleol.
Mae cyllid LEADER yn cefnogi pob math o weithgaredd: mentora, hyfforddiant, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n profi syniadau newydd arloesol, a fydd o fudd i’r sir ac yn cyfrannu at economi leol gystadleuol, gynhyrchiol a chynaliadwy.
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.