Yn dilyn llwyddiant y prosiect LEADER fu’n rhedeg am ddwy flynedd a gafodd ei ariannu gan yr UE drwy Arwain Sir Benfro, mae PLANED bellach wedi sicrhau cyllid newydd gan y Loteri er mwyn i’r prosiect CWBR yn gallu parhau, a bydd yn canolbwyntio ar bobl ifanc yn Sir Benfro.
Bydd Ieuenctid CWBR (Llesiant a Gwytnwch Cymunedol) yn adeiladu ar ganlyniadau llwyddiannus y prosiect CWBR blaenorol, oedd eisoes wedi darparu amrywiaeth o adnoddau i helpu ac i gynorthwyo Cynghorau Tref a Chymuned i weithio mwy gyda thrigolion ifanc o fewn eu cymunedau.
Ar ôl sicrhau cyllid gwerth £100,000 gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Fawr, bydd PLANED yn datblygu ymhellach ac yn canolbwyntio’n benodol ar weithio gyda’n partneriaid i ddenu mwy o bobl ifanc i ymwneud â’r cyrff democrataidd lleol ar draws Sir Benfro.
Gydag etholiadau lleol ar y gweill ym mis Mai 2022, dyma’r adeg berffaith i ddechrau’r prosiect hwn.
Dywedodd Iwan Thomas, Prif Swyddog Gweithredol PLANED “Yn dilyn gwaith caled y tîm CWBR, a’r ffordd y datblygodd y prosiect gwreiddiol yn ffrwd o gymorth effeithiol, cydnabyddedig llwyddiannus i gymunedau, mae’r cyllid ychwanegol newydd hwn am ddwy flynedd wedi ein cyrraedd ar yr adeg berffaith.”
“Yn ystod y cyfnod clo rydym wedi gweld atgyfodiad o ddiddordeb gan drigolion ifanc o fewn ein cymunedau yn y ffordd maen nhw eisiau cefnogi a datblygu eu gwasanaethau, seilweithiau a’u dyfodol yn gyffredinol. Bydd y prosiect newydd hwn yn gwarchod ac yn cefnogi’r diddordeb hwn ymhellach gydag offer, cymorth arbenigol a dull cynhwysfawr tryloyw clir fydd yn cael ei lywio a’i arwain gan drigolion ifanc y cymunedau. Gyda gobaith, bydd hyn yn annog mwy o bobl ifanc i bleidleisio yn yr etholiadau lleol fis Mai nesaf, ac o bosib, yn annog ymgeiswyr newydd i sefyll mewn etholiad.”
Dywedodd Abi Marriott a arweiniodd y prosiect CWBR blaenorol a’i gwblhau’n llwyddiannus “Trwy weithio gyda’n partneriaid, megis CYPRO, Coleg Sir Benfro, BIP Hywel Dda, a PAVS, yn ogystal ag eraill, yn ystod ein prosiect CWBR blaenorol, dangoswyd bod cydweithio ar gyfer ein cymunedau, ac ynddynt, yn creu canlyniadau gwych. Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi gallu sicrhau’r cyllid trwy PLANED, i gynnal y stori lwyddiant allweddol o’r prosiect blaenorol a chefnogi rôl a dylanwad ehangach y bobl ifanc mewn Cynghorau Tref a Chymuned ar draws Sir Benfro, ac ar y cyd â Chynghorwyr.”
Bydd y prosiect, sydd yn cael ei redeg a’i ariannu am ddwy flynedd, yn dechrau fis Ionawr 2022, a dan arweiniad cydlynydd ymrwymedig, bydd yn rhedeg ochr yn ochr â sefydliadau partner cefnogol o fewn Sir Benfro, ac Un Llais Cymru (OVW) i ddarparu’r canlyniadau sydd wedi’u cynllunio i wella ein cymunedau yn y sir unwaith yn rhagor.
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.