Adnoddau naturiol a diwylliannol
Prosiect i gyflawni astudiaeth ddichonoldeb fanwl a chryf i brofi ymarferoldeb y weledigaeth o drawsnewid Castell Hwlffordd i atyniad treftadaeth o safon sy’n denu pobl leol ac ymwelwyr i’r dref sirol.
Bydd yr astudiaeth yn edrych mewn manylder ar ddichonoldeb a chostau cyflawni’r prosiect, o ran cyfalaf a sut allai’r prosiect fod yn gynaliadwy o ran refeniw.
Ysgogodd y prosiect bartneriaeth o 12 sefydliad ac arweiniodd yn uniongyrchol at dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni gwelliannau mynediad i'r lleiniau tir bwrdais ar lannau deheuol y castell.
Arweiniodd yr astudiaeth ddichonoldeb at eraill yn ystyried dull dehongli arloesol a fyddai’n defnyddio dull STEM [gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg] i ddehongli hanes fel ffordd o’i wneud yn bwnc mwy hygyrch. Hyd y gwyddom, nid yw hyn wedi'i wneud yn unman arall.
Mae’r prosiect bellach yn y broses o wireddu camau cyn-adeiladu RIBA ar gyfer cam 1 o’r weledigaeth a ddaeth o'r astudiaeth ddichonoldeb ac yng ngham III RIBA ar gyfer cyflwyno un rhan o gam 1 gyda chyllid Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn chwilio am gyllid allanol am gyllideb adeiladu i gwblhau cam 1, ac mae’n edrych tuag at gam 2 ar hyn o bryd.
Mike Cavanagh
01437 775240
Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.