Busnes
Bydd adeiladu Gallu i Ofalu, Sir Benfro yn defnyddio methodoleg Catalyddion Cymunedol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydwaith o ddarparwyr-meicro a mentrau cymdeithasol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau gofal, cymorth a lles lleol, hyblyg, o’r safon uchaf, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn rhoi gwir ddewis a rheolaeth i bobl dros eu gofal.
Bydd y prosiect 2-flynedd yn cefnogi sefydlu mentrau-meicro lleol neu fentrau cymdeithasol lleol i gynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal, cymorth a lles i alluogi pobl fyw’n annibynnol am gyfnod hwy yn eu cartrefi, ac yn eu cymunedau eu hunain. Bydd y prosiect hefyd yn cyd-weithio ag egin-fentrau cymdeithasol neu fentrau cymdeithasol sefydledig, sydd eisiau gwella eu llywodraethu a’u harferion busnes a/neu ddatblygu gwasanaethau newydd i fodloni gofynion a nodwyd. Yn ogystal, bydd y prosiect yn helpu comisiynwyr ac ymarferwyr gwasanaethau i ddeall beth sy’n rhaid newid (diwylliant, systemau a llwybrau). Yna, bydd yn ei helpu i wireddu’r newidiadau hynny er mwyn gweddnewid y modd y darperir gofal cartref a gwasanaethau cymorth yn Sir Benfro.
- Cefnogi 174 o bobl
- Wedi darparu 12,427 o oriau o ofal neu gymorth…
- Neu 479 awr yr wythnos ar gyfartaledd
Am fwy o wybodaeth, gweler adroddiad o effaith Catalydd Gofal: https://drive.google.com/file/d/1em21VOK74D7-zxcdkNHW3kSH04O7U1TQ/view?usp=sharing
‘’ Ar hyn o bryd, rydyn ni’n archwilio opsiynau cyllido i ehangu’r gefnogaeth ar gyfer micro-fentrau i Geredigion a Sir Gâr yn ogystal â Sir Benfro.”
Sue Leonard
01437 769422
Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.