Gwasanaethau lleol
Mae’r prosiect PIP (Atal, Integreiddio, Partneriaeth) wedi’i anelu at ddatblygu a gweithredu model gofal cyflawn. Roedd y Prosiect wedi’i leoli yn Solfa, gyda PIP yn bwriadu bod o fudd i nifer cynyddol o bobl yn y gymuned drwy'r rhaglen gofal iechyd ataliol a datblygu gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at ehangu nifer y bobl sy'n cymryd rhan.
Mae’r prosiect wedi dangos cymhlethdod darpariaeth y GIG a Gofal Cymdeithasol a diffyg dull integredig gyda nodau, amcanion a chyllidebau cytûn. Mae pecynnau gofal yn anodd i’w cyflwyno mewn ardaloedd gwledig oherwydd prinder gofalwyr, amseroedd teithio hir a chyflogau gwael. Nid technoleg gwybodaeth yw'r ateb i bob problem; mae diffyg cysylltedd ac offer drud ymhlith y gynulleidfa oedrannus ac mewn ardaloedd difreintiedig yn broblem.
Mollie Roach
07807 091611
Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.