Ynni adnewyddadwy
Diben yr astudiaeth ddichonoldeb arfaethedig hon ar gyfer Ardal Profi Cyfarpar Morol (APCM) yw deall y ffactorau a allai rwystro datblygiad a thynnu sylw at yr atebion cydweithredol posib. Y nod sylfaenol yw ei gwneud yn bosib meithrin datblygiadau a sgiliau lleol er mwyn cyflawni potensial economaidd yn y farchnad ynni môr ‘newydd’.
Cynhaliodd y prosiect astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Ardal Profi Ynni Morol (META) i archwilio'r broses orau a'r gost gysylltiedig ar gyfer datblygu cyfleuster Dyfrffordd Aberdaugleddau ar gyfer dyfeisiau adnewyddadwy morol. Dangosodd yr ymchwil fod y rhan fwyaf o randdeiliaid yn teimlo bod Dyfrffordd Aberdaugleddau yn rhoi cyfle i brofi dyfeisiau morol yn y môr mewn amrywiaeth o hinsawdd adnoddau.
"Mae technolegau ynni morol yn cynnig cyfle ynni lle gall y DU anelu'n rhesymol at fod yn arweinydd byd-eang, gyda rhai cyfleoedd sylweddol yn y gadwyn gyflenwi i'w chyfateb... Dylid hyrwyddo'r DU fel canolfan rhagoriaeth fyd-eang a chyfle i ddatblygu'r holl dechnolegau ynni morol..."
Mae'r prosiect wedi cyflawni'r hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud sef cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Ardal Profi Ynni Morol (META) i archwilio'r broses orau a'r gost gysylltiedig ar gyfer datblygu cyfleuster dyfrffordd Aberdaugleddau ar gyfer dyfeisiau adnewyddadwy morol.
Mae'r ymchwil wedi dangos bod y rhan fwyaf o randdeiliaid yn teimlo bod Dyfrffordd Aberdaugleddau yn rhoi cyfle i brofi dyfeisiau morol yn y môr mewn amrywiaeth o hinsawdd adnoddau. Byddai Ardal Prawf Ynni Morol (META) yn darparu ardal o ddyfrffordd â chydsyniad, gyda thrwyddedau a seilwaith galluogi i gyflawni profion a gosod ymarfer a methodoleg O&M, ger y sylfaen weithredu ac o fewn cyrraedd hawdd i gadwyn gyflenwi peirianneg helaeth a chefnogol. Bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i gwmnïau cadwyn gyflenwi arallgyfeirio ac arloesi tra'n darparu mwy o amlygrwydd i gwmnïau o Gymru i gynyddu cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi a mwy o fewnfuddsoddiad.
Jess Hooper
01646 405695
Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.