Ynni adnewyddadwy
Datblygu cynllun busnes ar gyfer cyflawni system ynni adnewyddadwy integredig a arweinir gan y gymuned, yn defnyddio technoleg ddeallus; datrysiadau storio a chynhyrchu hydrogen yn delio â materion yn cynnwys llyfnu ynni a chyfyngiadau’r grid i ddarparu rhwydwaith leol gynaliadwy a gwydn.
Roedd y Prosiect hwn yn bwriadu darparu system ynni adnewyddadwy integredig a arweinir gan y gymuned, gan ddefnyddio technoleg glyfar, atebion storio a chynhyrchu hydrogen, gan fynd i'r afael â llyfnhau ynni a chyfyngiadau grid. Roedd y Prosiect yn cynnwys 3 phrif faes prosiect a rannwyd rhwng gwaith y system grid leol a'r gwaith hydrogen.
Cynhaliwyd y gwaith o fapio'r system rhwydwaith grid lleol a oedd yn nodi technolegau adnewyddadwy presennol. Cynhaliwyd gweithgareddau ymchwil manwl hefyd i archwilio gwahanol opsiynau ac i adolygu cynlluniau ynni eraill sydd ar gael.
Roedd y Prosiect yn gallu defnyddio ei gyfnod gydag LEADER i ymgysylltu â chymunedau a llunio adroddiadau manwl pellach a chynllun busnes.
"Gyda'r holl newyddion am ein hinsawdd sy'n newid, mae'n bwysig iawn ein bod yn grymuso pobl i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain pan ddaw'n fater o ddefnyddio ynni. Mae ein digwyddiad 'Ynni yn y Gymuned' yn dangos bod nifer o atebion sy'n bodoli eisoes y gall unigolion a grwpiau eu cymryd i leihau eu hallyriadau carbon, gan gyfrannu hefyd at ddyfodol cadarnhaol."
Nododd y Prosiect, oherwydd cyfyngiadau grid yn yr ardal a newidiadau yng nghyllid y llywodraeth, na allai TGB ddenu buddsoddiad yn y farchnad i gynllun Fferm Trecoed. Mae TBG angen cymorth i ymchwilio i opsiynau cysylltu a storio ynni ar y safle a datblygu'r cynllun i bwynt lle mae'n fasnachol hyfyw ac yn denu buddsoddiad yn y farchnad.
Tom Latter
01348 872019
Daeth Arwain Sir Benfro a’r Rhaglen LEADER i ben ym mis Rhagfyr 2021 unwaith y byddai’r holl brosiectau wedi’u cwblhau a’r cyllid wedi dod i ben. Bellach nid oes unrhyw gefnogaeth benodol ar ôl cwblhau'r Rhaglen LEADER yn Sir Benfro. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, efallai y gall PLANED fel y gweinyddwyr blaenorol helpu, neu yn yr un modd ar gyfer cwestiynau ehangach ar y Rhaglen LEADER yng Nghymru, cysylltwch â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.